|
Cwmni
dielw sy’n weithgar yn y gymuned yw Gwynfryn ac
ein nod yw rhoi safle lansio i gerddorion a chantorion
sy’n awyddus i fynd yn eu blaenau i lwyfan adloniant
proffesiynol. Fe fyddan nhw’n gallu cyflawni eu
potensial a gwireddu eu breuddwydion.
Ac fe fyddan nhw’n gwybod yn union beth yw hanfod
y busnes y maen nhw’n gweithio ynddo fo, ac yn
gallu mynd yn eu blaenau’n hyderus ac yn siwr
o’u pethau wedi derbyn sylfaen gadarn o wybodaeth.
Rydyn ni’n darparu cyngor am ddim ar bob agwedd
o’r busnes cerddoriaeth, o gyfreithlondeb rheoli
hawlfraint i bethau mor syml a thiwnio gitar. Mae yna
lawer o rwystrau ar ffordd cerddor sy’n llawn
dyhead i fynd yn ei flaen. I gyrraedd eich gôl
mae’n rhaid i chi adnabod eich maes chwarae. Fe
allwn ni eich harwain trwy beth sy’n edrych fel
jyngl gyfryngol.
Manylion Cysylltu:
Stiwdio:
Y Stiwdio, Waunfawr, Caernarfon, Gwynedd LL55 4AQ
Ffôn/Ffacs: 01286 650 523
E-bost:
gwynfryncymunedol@hotmail.com
|
|